Paratowyd y ddogfen hon gan gyfreithwyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi gwybodaeth a chyngor i Aelodau’r Cynulliad a’u staff am faterion y mae’r Cynulliad a’i bwyllgorau’n eu hystyried ac nid at unrhyw ddiben arall. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a’r cyngor a geir yn y ddogfen hon yn gywir, ond ni dderbynnir cyfrifoldeb am unrhyw ddibyniaeth a roddir arnynt gan drydydd parti.

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Bil ynghylch Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)

 

Papur briffio cyfreithiol – Pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth

 

1.       Cyflwyniad i’r Bil a throsolwg arno

 

Mae’r papur hwn yn amlinellu pa bwerau sydd wedi’u cynnwys yn y Bil ynghylch Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) (“y Bil”) i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth.

 

Nod y Bil yw:  

 

-       diwygio pwerau awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru i ymyrryd ym materion rhedeg ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol sy’n peri pryder;

-       diwygio pwerau Gweinidogion Cymru i ymyrryd ym materion arfer swyddogaethau addysg gan awdurdodau lleol;

-       darparu ar gyfer canllawiau gwella ysgolion;

-       diwygio’r trefniadau statudol ar gyfer trefniadaeth ysgolion a gynhelir;

-       darparu ar gyfer cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg;

-       gwneud darpariaeth amrywiol mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir, gan gynnwys darpariaethau mewn perthynas â brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd, codi taliadau hyblyg am brydau ysgol, cwnsela mewn ysgolion, cyfarfodydd rhieni a chod ymarfer ar y berthynas rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion a gynhelir.

 

2.       Pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth

 

Mae’r Bil arfaethedig yn cynnwys nifer o bwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth. Ceir esboniad o’r rhain yn Rhan 1.5 o’r Memorandwm Esboniadol a osodwyd gyda’r Bil arfaethedig ac yn y Nodiadau Esboniadol sy’n ymddangos ar ddiwedd y Memorandwm hwnnw.

 

Mae Rheol Sefydlog 26.6(vii) yn nodi bod yn rhaid i’r Aelod sy’n gyfrifol, wrth gyflwyno Bil, osod Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef ac sy’n cynnwys y materion a ganlyn:

 

(vii) os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n rhoi pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, nodi mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath:

(a)  y person neu’r corff y rhoddir y pwer iddo ac ym mha fodd y mae’r pŵer i gael ei arfer;

(b)  pam y bernir ei bod yn briodol dirprwyo’r pŵer; ac

(c)  y weithdrefn Cynulliad (os oes un) y mae’r is-ddeddfwriaeth a wnaed neu sydd i’w gwneud wrth arfer y pŵer i ddod odani, a pham y barnwyd ei bod yn briodol ei gosod o dan y weithdrefn honno (ac nid ei gosod o dan unrhyw weithdrefn arall).

 

Mae adran 98 o’r Bil yn nodir rheoliadau ar gorchmynion o dan y Bil sydd iw gwneud drwy offeryn statudol a gweithdrefn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) ar gyfer yr offerynnau hynny. Mae hefyd yn rhestru rhai pwerau sy’n caniatáu i Orchmynion gael eu gwneud ond nad ydynt yn arferadwy drwy offeryn statudol.

Mae’r Bil arfaethedig yn nodi’r pwerau a ganlyn i wneud is-ddeddfwriaeth:- 

 

(i) Trefniadaeth Ysgolion – Y Cod am Drefniadaeth Ysgolion (“y Cod”) (Adran 39)

Mae adran 38 yn gwneud darpariaeth bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod ar drefniadaeth ysgolion a diweddaru’r cod hwnnw o dro i dro. Bydd y Cod yn cynnwys darpariaethau ynghylch arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, paneli penderfynu lleol ac unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â chynigion a wnaed. Caiff y Cod osod gofynion, a chynnwys canllawiau ar gyfer pennu nodau ac amcanion a materion eraill. Bydd pennu gofynion mewn cod yn hytrach nag ar wyneb y Bil neu mewn rheoliadau yn golygu bod modd defnyddio iaith sy’n haws i’w deall gan bartïon sydd â diddordeb. Mae’r ffaith y caiff y Cod arfaethedig bennu gofynion yn ei gwneud yn glir bod natur ddeddfwriaethol iddo yn hytrach na natur weinyddol.

 

Mae adran 39 yn nodi’r weithdrefn i Weinidogion Cymru gyhoeddi Cod Statudol ar drefniadaeth ysgolion. Bydd darpariaethau yn y cod yn seiliedig ar arfer gorau, a bydd y cod yn caniatáu i’r egwyddorion a’r arferion gorau hynny gael eu hymgorffori gydag amser.

 

Gweithdrefn: Bydd y Cod yn ddarostyngedig i’r weithdrefn sydd wedi’i nodi yn y Bil. Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw un addas yn eu tyb hwy ynghylch y Cod drafft (neu’r Cod diwygiedig). Rhaid i gopi drafft o’r Cod gael ei osod gerbron y Cynulliad. Os yw’r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu (cyn diwedd y cyfnod o 40 diwrnod) peidio â chymeradwyo fersiwn drafft o’r Cod, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chyhoeddi’r Cod arfaethedig ar ei ffurf ddrafft. Os na chaiff cynnig o’r fath ei wneud cyn diwedd y cyfnod o 40 diwrnod, yna mae’n rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r Cod. Daw’r Cod, neu’r Cod diwygiedig, i rym ar y dyddiad a bennir drwy Orchymyn gan Weinidogion Cymru. Mae’r weithdrefn yn adlewyrchu’r drefn o osod codau Derbyniadau i Ysgolion ac Apelau Derbyn i Ysgolion. I bob diben, mae’r weithdrefn hefyd yn adlewyrchu’r “weithdrefn negyddol”, er bod feto’r Cynulliad yn arferadwy cyn i’r Cod gael ei wneud yn hytrach na wedi hynny, fel sy’n arferol gydga Offerynnau Statudol.

 

(ii) Cynigion Trefniadaeth Ysgolion – Sefydlu, newid a therfynu ysgolion a gynhelir (Adran 57(3))

Mae Pennod 2 o Ran 2 o’r Bil yn gwneud darpariaethau manwl ynghylch sefydlu, newid a therfynu ysgolion a gynhelir, ac wrth wneud hynny yn rhoi pwerau amrywiol i awdurdodau lleol, Gweinidogion Cymru a chyrff llywodraethu ysgolion.

Mae adran 57 yn adran ddehongli ac mae is-adran (1) yn rhestru nifer o ddiffiniadau sydd ym Mhennod 2. Ystyr “ysgol fach” yw ysgol sydd â llai na 10 o ddisgyblion cofrestredig ar y trydydd dydd Mawrth yn y mis Ionawr yn union cyn y dyddiad y caiff y cynigion eu gwneud. Ar hyn o bryd, y dyddiad hwn yw dyddiad cyfrifiad blynyddol yr ysgol. Mae adran 57(3) yn caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy Orchymyn, newid y dyddiad yn y Bil os oes angen.

 

Gweithdrefn: Mae adran 98(4) yn nodi y bydd gorchymyn a wnaed o dan adran 57(3) yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad negyddol.

 

(iii) Asesu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg (Adran 87)

 

Mae adran 87(1) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, sy’n arferadwy drwy reoliadau i’w “gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, wneud asesiad o’r galw ymhlith rhieni yn ei ardal am addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plant.” Caiff adran 87(2) (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaethau ynghylch sut a phryd i gynnal asesiad.

 

Gweithdrefn: Bydd unrhyw reoliad o’r fath yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad negyddol (Adran 98(4)).

 

(iv) Asesu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg – Rheoliadau a chanllawiau (Adran 88)

 

Mae adran 88(1) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Mae adran 88(2) yn caniatáu i’r rheoliadau bennu ffurf a chynnwys cynllun (88(2)(a)); amseriad a hyd cynllun (88(2)(b)); cadw golwg ar gynllun a’i ddiwygio (88(2)(c)); ymgynghori yn ystod y broses o lunio cynllun a’i ddiwygio (88(2)(d)); cyflwyno cynllun i gael ei gymeradwyo (88(2)(e)); a phryd a sut i gyhoeddi cynllun (88(2)(f)). Mae adran 88(3) yn gwneud darpariaeth y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau hefyd sy’n galluogi awdurdodau lleol i baratoi a chyflwyno cydgynllun i ganiatáu i awdurdodau lleol gydweithio.

 

Gweithdrefn: Bydd unrhyw reoliad o’r fath yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad negyddol (Adran 98(4)).

 

(v) Gwasanaethau cwnsela annibynnol ar gyfer disgyblion ysgol a phlant eraill (Adran 93)

 

Mae adran 93 yn gwneud darpariaeth bod yn rhaid i awdurdod lleol sicrhau darpariaeth resymol ar gyfer gwasanaeth cwnsela mewn cysylltiad ag anghenion iechyd, anghenion emosiynol ac anghenion cymdeithasol ar gyfer disgyblion ysgol a grwpiau penodol eraill. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod cynllun cwnsela yn cael ei dreialu mewn ysgolion cynradd ar hyn o bryd ac y byddai’r pwerau gwneud rheoliadau hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru ymateb i unrhyw anghenion sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn y dyfodol. Bydd is-adran (5) hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i “wasanaeth cwnsela annibynnol gael ei ddarparu mewn mannau eraill.”

 

Gweithdrefn: Bydd unrhyw reoliad o’r fath yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad negyddol (Adran 98(4)).

 

(vi) Atodlen 1 - Sefydlu corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal (Atodlen 1, paragraff 17(2))

 

Mae Atodlen 1, paragraff 17(2) yn darparu pwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ar gyfer trosi o fwrdd gweithrediaeth interim i gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi mai diben rheoliadau o’r fath fydd amlinellu'r trefniadau technegol pan fydd y bwrdd gweithrediaeth interim wedi cwblhau ei fusnes, a phan fydd corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal yn derbyn cyfrifoldeb dros lywodraethu a gweithrediaeth yr ysgol.

 

Gweithdrefn: Bydd unrhyw reoliad o’r fath yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad negyddol (Adran 98(4)).

 

 

(vii) Atodlen 2 – Newidiadau rheoleiddiedig (Atodlen 2, paragraff 26)

 

Bydd paragraff 26 o Atodlen 2 yn caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, ychwanegu, dileu neu ddiwygio addasiadau penodedig ysgolion. Mae hwn yn bŵer sylweddol gan ei fod yn caniatáu i Weinidog Cymru ddiwygio’r Bil yn y cyd-destun hwn, heb yr angen am ddeddfwriaeth sylfaenol newydd.

 

Gweithdrefn: Bydd unrhyw reoliad o’r fath yn ddarostyngedig i weithdrefn y penderfyniad cadarnhaol.

 

(viii) Atodlen 5 – Gweithredu cynigion i newid categori ysgol (Atodlen 5, paragraff 40)

 

Mae Atodlen 5 yn darparu gweithdrefnau ar gyfer adeg pan fydd ysgol yn newid categori yn unol â chynigion. Mae paragraff 40 yn rhoi pwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru o ran gweithredu cynigion i newid categori ysgol o ran llywodraethu’r ysgol.

 

Gweithdrefn: Bydd unrhyw reoliad o’r fath yn ddarostyngedig i weithdrefn y penderfyniad negyddol (Adran 98(4)).  

 

(ix) Darpariaethau Cychwyn

 

Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer adrannau 1 (trosolwg), 101 (cychwyn) ac 102 (teitl byr a chynnwys fel un o’r Deddfau Addysg) i ddod i rym y diwrnod ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol. Daw Pennod 3 (canllawiau gwella ysgolion) o Ran 2, adran 92 (diwygio’r pŵer i godi tâl am brydau bwyd ysgol etc.) a pharagraffau 26, 29(1), 30 a 31 o Ran 3 o Atodiad 6 (diwygiadau canlyniadol i adran 92) (ac adran 100 mewn perthynas â’r paragraffau hynny) i rym ddau fis ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol.

Mae Adran 101(3) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud gorchmynion cychwyn i ddod â rhannau eraill y Bil i rym pan fydd angen.

 

Gweithdrefn: Ni ddarperir gweithdrefn graffu ar gyfer gorchmynion cychwyn, ac mae hyn yn arfer deddfwriaethol arferol.

 

 

 

3. Pwerau Dirprwyedig nad ydynt yn arferadwy drwy offeryn statudol

 

Yn y Bil hwn, mae rhai darpariaethau yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud gorchmynion nad ydynt yn arferadwy drwy offeryn statudol ac nad ydynt, felly, yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn graffu gan y Cynulliad.

 

(i) Rhesymoli Lleoedd Ysgolion – Cyfarwyddiadau i wneud cynigion ar gyfer rhesymoli lleoedd ysgolion

Mae adran 58 yn gwneud darpariaethau ar gyfer achlysuron lle mae Gweinidogion Cymru yn credu bod darpariaeth ormodol neu annigonol ar gyfer addysg gynradd neu uwchradd mewn ysgolion a gynhelir mewn ardal awdurdod lleol neu mewn rhan o’r ardal honno. Mae adran 58(2) yn gwneud darpariaeth y caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn “(a) cyfarwyddo’r awdurdod lleol i arfer ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion, a (b) cyfarwyddo corff llywodraethu ysgol sefydledig, gwirfoddol neu arbennig sefydledig a gynhelir gan yr awdurdod i arfer ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol.” Rhaid i orchymyn o’r fath wedyn ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion gael eu cyhoeddi heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y gorchymyn, i’r cynigion gymhwyso unrhyw egwyddorion a bennir yn y gorchymyn, a phan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod darpariaeth annigonol, neu ei bod yn debygol y bydd darpariaeth annigonol, pennu’r nifer ychwanegol o ddisgyblion y mae lle i’w drefnu ar eu cyfer.

 

Gweithdrefn: Mae adran 98(2) yn nodi na fydd gorchymyn a wneir o dan adran 58(2) yn cael ei wneud drwy offeryn statudol. Felly ni fydd unrhyw orchymyn yn ddarostyngedig i weithdrefn graffu gan y Cynulliad.

 

(ii) Darpariaeth Ranbarthol ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig (Adran 67(2))

Mae’r bennod hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer y posibilrwydd y byddai dau neu fwy o awdurdodau lleol yn gallu cyflawni swyddogaethau addysg arbennig yn rhanbarthol os y bernir y byddai’n fwy effeithiol neu effeithlon mewn perthynas ag ardaloedd yr awdurdodau hynny.

Mae adran 65 yn darparu diffiniadau o’r hyn a ystyrir yn “ddarpariaeth ranbarthol” a “swyddogaethau addysg arbennig”. Mae adran 66 yn gwneud darpariaeth “[y] caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdodau lleol i ystyried a fyddent hwy yn gallu cyflawni eu swyddogaethau addysg arbennig, mewn cysylltiad a phlant sydd a’r anghenion addysgol arbennig a bennir yn y cyfarwyddyd, yn fwy effeithlon neu effeithiol pe cai darpariaeth ranbarthol ei gwneud.” Mae is-adran (2) yn nodi “rhaid i’r awdurdodau y rhoddir cyfarwyddyd iddynt gyflwyno adroddiad ar eu casgliadau i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r amser a bennir yn y cyfarwyddyd.”

 

Mae adran 67(2) yn rhoi pwerau gwneud gorchmynion i Weinidogion Cymru er mwyn sicrhau bod darpariaeth ranbarthol yn cael ei gwneud mewn perthynas â’r disgrifiad o blant o’r ardaloedd a bennir.

 

Gweithdrefn: Yn debyg i adran 57(2), mae adran 98(2) yn nodi na fydd gorchymyn a wneir o dan adran 67(2) yn arferadwy gan offeryn statudol. Felly, ni fydd unrhyw orchymyn yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn graffu gan y Cynulliad.

 

(iii) Atodlen 5, Rhan 3, Paragraff 34 – Trosglwyddo Tir

Mae paragraff 34 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn mewn perthynas â throsglwyddo tir mewn rhai amgylchiadau sy’n eithrio rhai darpariaethau a gofynion a fyddai’n gymwys fel arfer ar gyfer mathau eraill o drosglwyddo tir o dan y Bil.

Gweithdrefn: Mae adran 98(2) yn nodi na fydd gorchymyn a wneir o dan baragraff 34(1) (b) yn arferadwy gan offeryn statudol ac na fydd, felly, yn ddarostyngedig i weithdrefn graffu bellach gan y Cynulliad. Mae hwn yn debyg i orchymyn prynu gorfodol na fyddai’n ddarostyngedig i weithdrefn Cynulliad.

 

4. Pwerau Cyfarwyddo

Er mwyn bod yn gyflawn, mae’r Bil, fel yr amlinellodd llythyr y Gweinidog, dyddiedig 16 Mai 2012, yn cynnwys llawer o bwerau cyfarwyddo eraill ar gyfer Gweinidogion Cymru sydd wedi’u gosod ar wyneb y Bil. Bydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn craffu ar y pwerau hyn ac yn eu hystyried wrth drafod egwyddorion cyffredinol y Bil yn ystod cyfnod 1 o’r broses ddeddfu.

 

Yn gryno, mae pwerau cyfarwyddo yn adrannau 12, 15, 16 a 17 sy’n ymwneud ag ymyrraeth Gweinidogion Cymru mewn Corff Llywodraethu Ysgolion. Mae hyn yn cynnwys y pŵer i’w gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu gydweithio a sicrhau cyngor gan drydydd partïon, i gyfarwyddo ffedereiddio ysgolion, i gyfarwyddo bod ysgol yn cael ei chau a phŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau cyffredinol a chymryd camau angenrheidiol.

 

Mae adrannau 24, 25, 26, 27 a 28 yn cynnwys pwerau cyfarwyddo mewn perthynas ag ymyrraeth Gweinidogion Cymru mewn awdurdodau lleol. Mae’r pwerau cyfarwyddo hyn yn cynnwys y pŵer i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gael gwasanaethau cynghori; i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan bersonau eraill ar ran awdurdod; i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu enwebai; y pŵer i gyfarwyddo’r modd y mae swyddogaethau addysg eraill yn cael eu harfer; a phŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau cyffredinol a chymryd camau angenrheidiol.

 

Mae adran 82 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod lleol i derfynu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig a gynhelir ganddo ar ddiwrnod penodedig, os ydynt yn credu ei bod yn hwylus gwneud hynny er iechyd, diogelwch neu les disgyblion yn yr ysgol.

 

Yn olaf, mae adran 94 yn rhoi’r pwerau i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth am eu gwasanaethau cwnsela annibynnol.

 

5. Pwerau i gyhoeddi Canllawiau Statudol

 

Mae’r Bil hefyd yn cynnwys llawer o bwerau i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol ar amrywiaeth o bynciau.

 

Mae adran 20 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol i awdurdodau lleol mewn perthynas â’r modd y maent yn defnyddio’u pwerau ymyrraeth. Nid yw’r pŵer i gyhoeddi canllawiau statudol o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw waith craffu arall gan y Cynulliad.

 

Mae adran 33 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau gwella ysgolion. Cyn dyroddi canllawiau o’r fath, mae’n ddarostyngedig i weithdrefn graffu gan y Cynulliad fel sydd wedi’i nodi yn adran 34 o’r Bil. Mae’r weithdrefn hon yn debyg i’r weithdrefn penderfyniad negyddol. Yn rhinwedd adran 35, rhaid i awdurdod ysgol ddilyn y canllawiau oni bai ei fod yn cyflwyno datganiad polisi sy’n rhestru sut y mae’n bwriadu arfer dyletswyddau yn wahanol a’r rhesymau pam ei fod yn ceisio arfer swyddogaethau yn wahanol. Mae hyn yn rhoi’r nodweddion deddfwriaethol iddo sy’n cyfiawnhau cymhwyso gweithdrefn Cynulliad. Er gwaethaf hyn, mae Gweinidogion Cymru yn cadw’r pŵer i gyfarwyddo awdurdod ysgol i gymryd camau i gydymffurfio â’r canllawiau gwella ysgolion statudol (adran 37).  

 

Mae adran 89(5) o’r Bil yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol ynghylch brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd.

 

Mae adran 93(2)(b) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ynghylch Cwnsela mewn Ysgolion.

 

6. Casgliad

 

O ran y rhan fwyaf o’r pwerau dirprwyedig yn y Bil, nid yw’n ymddangos bod unrhyw ddarpariaethau anarferol. Fodd bynnag, mae’r pwerau a restrir uchod yn rhan tri o’r papur hwn yn rhestru tri phŵer gwneud gorchmynion, na fyddant yn unol ag adran 98(2) o’r Bil yn cael eu gwneud gan offeryn statudol.

 

Efallai yr hoffai’r Pwyllgor ystyried a ddylai rhai neu’r cyfan o’r pwerau gwneud Gorchmynion hyn gael eu gwneud drwy offeryn statudol a bod yn ddarostyngedig i graffu pellach, neu a ydynt yn fodlon bod y pwerau hyn yn cael eu defnyddio yn y dull a ragnodwyd eisoes.

 

Y Gwasanaethau Cyfreithiol

Mai 2012